Yr oedd hefyd yn y gynnulleidfa ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; yn enwedig Barnabas, a Symeon, yr hwn á elwid Niger, a Lucius, y Cyreniad, a Manäen, yr hwn á ddygwyd i fyny gyda Herod y pedrarch, a Saul. A fel yr oeddynt yn gweini i’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glan, Neillduwch i mi Farnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo. A gwedi iddynt ymprydio a gweddio, a gosod dwylaw arnynt; hwy á’u gollyngasant ymaith. Hwythau, gàn hyny, gwedi eu danfon gàn yr Ysbryd Glan, á aethant i Seleucia; ac oddyno á fordwyasant i Gyprus, a gwedi iddynt gyrhaedd Salamis, hwy á gyhoeddasant air Duw yn nghynnullfa yr Iuddewon; ac yr oedd ganddynt hefyd Ioan yn weinydd iddynt. A gwedi iddynt dramwy drwy yr ynys hyd Baphos, hwy á gawsant ryw Iuddew, swynwr a geubroffwyd, a’i enw Bar‐iesu; yr hwn oedd gyda ’r rhaglaw, Sergius Paulus, gwr call; yr hwn, wedi galw ato Farnabas a Saul, á ddeisyfodd gael clywed gair Duw. Eithr Elymas y swynwr, (canys dyma oedd ei enw, pan gyfieithir,) á’u gwrthwynebodd hwynt, gàn geisio gwyrdroi y rhaglaw oddwrth y ffydd. Yna Saul, (yr hwn hefyd á elwir Paul,) yn llawn o’r Ysbryd Glan, wedi edrych yn graff arno, á ddywedodd, O! gyflawn o bob twyll, ac o bob ysgelerder! mab y diafol! gelyn pob cyfiawnder! oni pheidi di a gwyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd? Ac, wele, yn awr y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi á fyddi ddall, a heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe á aeth oddamgylch, gàn geisio rhai iddei arwain erbyn ei law. Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn à wnaethid, á gredodd; gàn ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.