Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 1

1
RHAGYMADRODD LUWC,
Ac Ailadroddiad o ddiwedd ei Hanes blaenorol.
1-12 Yr adroddawd cyntaf á gyfansoddais, O Theophilus, am yr holl bethau à ddechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, gwedi iddo, drwy yr Ysbryd Glan, roddi gorchymmyn i’r Apostolion à etholasai. I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw àr ol ei ddyoddefiadau, drwy lawer o brofion anffaeledig; gàn fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a llefaru am y pethau à berthynent i deyrnas Duw. A gwedi eu cynnull hwynt yn nghyd, efe á orchymmynodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, eithr dysgwyl am addewid y Tad, yr hon, ebai efe, á glywsoch chwi gènyf fi. Oblegid Iöan, yn wir, á drochai mewn dwfr, ond chwi á drochir yn yr Ysbryd Glan, cyn nemawr o ddyddiau. Hwythau, gàn hyny, gwedi ymgynnull yn nghyd, á ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn yr adferi di y freniniaeth i Israel? Ond efe á ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai á gadwodd y Tad iddo ei hun. Ond chwi á dderbyniwch nerth, drwy i’r Ysbryd Glan ddyfod arnoch, ac á fyddwch dystion i mi yn Nghaersalem, ac yn holl Iuwdëa, ac yn Samaria, a hyd eithaf y ddaiar. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynthwy yn edrych, efe á ddyrchafwyd i fyny, a chwmwl á’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. A fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua ’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele dau wr á safasant gèrllaw iddynt mewn gwisg wèn; y rhai hefyd á ddywedasant, Alileaid, paham y sefwch yn edrych tua ’r nef? Yr Iesu hwn, à gymerwyd i fyny oddwrthych i’r nef, á ddaw hefyd, yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. Yna y dychwelasant i Gaersalem, o’r mynydd à elwir Oleẅwydd, yr hwn sydd o Gaersalem daith diwrnod Seibiaeth.
13-14A gwedi eu dyfod i’r ddinas, hwy á aethant i oruchystafell, lle yr arosodd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomëus a Matthew, Iago mab Alphëus, a Simon yr Eiddus, a Iuwdas brawd Iago. Y rhai hyn oll oeddynt yn parâu yn unfryd mewn gweddi, gyda ’r gwragedd, a Mair mam Iesu, a chyda ’i frodyr ef.
DOSBARTH I.
Gosod Apostol yn lle Iuwdas.
15-26Ac yn y dyddiau hyn, Pedr á gyfododd i fyny yn nghanol y dysgyblion, (a nifer y dynion ymgynnulledig, oedd yn nghylch ugain a chant,) ac á ddywedodd, Frodyr, yr oedd yn raid cyflawni yr ysgrythyr yma, yr hon á lefarodd yr Ysbryd Glan gynt, drwy enau Dafydd, am Iuwdas, yr hwn á fu yn flaenor i’r rhai à ddaliasant Iesu: (canys efe á gyfrifwyd gyda ni, ac á gawsai ran o’r weinidogaeth hon:) hwn, gàn hyny, á bwrcasodd faes â gobr anwiredd, a chàn syrthio i lawr àr ei wyneb, efe á dòrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef á dywalltwyd allan: a hysbys fu hyn i holl breswylwyr Caersalem, fel y gelwir y maes hwnw, yn eu hiaith hwy, Aceldama, hyny yw, Maes y gwaed. Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, “Bydded ei drigfan ef yn annghyfannedd, a na bydded à breswylio ynddi:” a, “Cymered arall ei swydd ef.” Rhaid yw, gàn hyny, o’r gwŷr à arosasant gyda ni yr holl amser y bu yr Arglwydd Iesu yn cydymdaith â ni, gàn ddechreu o’i drochiad gàn Iöan, hyd ddydd ei gymeriad i fyny, bod i un gael ei osod yn dyst gyda ni, o’i adgyfodiad ef. A hwy á osodasant ddau gèr bron, Ioseph, à elwid Barsabas, yr hwn á gyfenwid Iustus, a Matthias. A chàn weddio, hwy á ddywedasant, Arglwydd, yr hwn á wyddost galonau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn á ddewisaist, i gymeryd rhan o’r weinidogaeth a’r apostoliaeth, oddwrth yr hon y syrthiodd Iuwdas drwy drosedd, i fyned iddei le ei hun. A hwy á fwriasant goelbrèni, ac àr Fatthias y syrthiodd y coelbren, ac efe á gyfrifwyd gyda’r un Apostol àr ddeg.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 1: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda