Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 14

14
PENNOD XIV.
1Dychwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw;
Canys syrthiaist trwy dy anwiredd:#14:1 Yr “anwiredd,” oedd eilun-addoliaeth.
2Cymerwch gyda chwi eiriau,
A dychwelwch at yr Arglwydd;
Dywedwch wrtho,
“Yn gwbl maddeu yr anwiredd, a dyro dda
A thalwn i ti ffrwyth ein gwefusau:#14:2 Felly yr hen gyfieithiadau oddieithr y Vulgate, lle y cawn “loi ein gwefusau.”
3Yr Assyriaid — ni wna ein gwaredu;
Ar farch ni farchogwn;
Ac ni ddywedwn mwy,
‘Ein Duw,’ wrth waith ein dwylaw;
Oblegid genyt ti y mae tosturi i’r dïymgeledd.”
4Iachaf eu gwrthgiliad,#14:4 Neu, “Adferaf eu gwrthgiliad.”
Caraf hwynt yn wirfoddol;
Canys trôdd fy nigder oddiwrthynt.
5Byddaf fel gwlith i Israel;
Blagura fel y lili,
Ac estyna ei wreiddyn fel Libanon;#14:5 Sef, fel coedydd Libanon.
6Ymleda ei gangenau,
A bydd fel yr olewydden ei harddwch,
Ac arogl fel Libanon a fydd iddo;
7Eistedd eisteddwyr dan ei gysgod;
Adfywiant fel yr ŷd,
A blagurant fel y winwydden;
Ei arogledd a fydd fel gwin Libanon.
8 Dywedodd # 14:8 Yn hytrach na “dywed,” o herwydd yr hyn a ganlyn, “Myfi a atebais.” Ephraim, “Beth a fynaf mwy âg eilunod?”
Myfi a atebais ac a edrychais arno, —
“Myfi — byddaf i ti fel cedrwydden flagurol;#14:8 Er cysgod iddo rhag gwres; amddiffynias rhag niwed a feddylir.
Ac oddiwrthyf fi y ceir dy ffrwyth.”#14:8 Y “ffrwyth,” yn gystal a dïogelwch Ephraim, a ddeuai oddiwrth Dduw. Rhoddai Duw iddo gysgod neu amddiffyn, a gwnai ef yn ffrwythlawn.
9Pwy sydd ddoeth, fel y deallo y pethau hyn?
Yn ddeallus, fel y gwybyddo hwynt?#14:9 Rhaid bod yn ddoeth er deall, a deallus er iawn wybod. Rhaid canfod ffyrdd Duw yn uniawn cyn y byddo i ni rodio ynddynt.
Canys uniawn ydynt ffyrdd yr Arglwydd:
A’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt;
Ond troseddwyr#14:9 Neu, gwrthryfelwyr, y rhai a wrthwynebant ewyllys Duw. Rhaid bod yn “gyfiawn” tuag at rodio mewn “ffyrdd uniawn”. — wrthynt y tramgwyddant.

Dewis Presennol:

Hosea 14: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda