Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Seffaneia 3:9-20

Seffaneia 3:9-20 BWM

Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd. O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm. Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy. Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo. Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich. Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.