Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb, Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist