Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni.
Darllen Rhufeiniaid 8
Gwranda ar Rhufeiniaid 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 8:14-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos