Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. Moliannaf di, O Arglwydd fy NUW, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. Eithr ti, O Arglwydd, wyt DDUW trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
Darllen Y Salmau 86
Gwranda ar Y Salmau 86
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 86:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos