Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW.
Darllen Y Salmau 50
Gwranda ar Y Salmau 50
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 50:11-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos