ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela. Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.
Darllen Y Salmau 3
Gwranda ar Y Salmau 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 3:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos