Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
Darllen Y Salmau 119
Gwranda ar Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos