Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 2:1-22

Diarhebion 2:1-22 BWM

Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW. Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus. Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau: I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau; Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW. Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw. Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd. Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn. Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi. Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Diarhebion 2:1-22