Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch. Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i. Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i. A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig. Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid. Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi. Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Darllen Philipiaid 4
Gwranda ar Philipiaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 4:10-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos