Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd-drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.
Darllen Philipiaid 1
Gwranda ar Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:22-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos