Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 1:1-20

Philipiaid 1:1-20 BWM

Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi-ofn. Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.