Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog. Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn DUW. Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith. Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch. A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma. Cofia fi, O fy NUW, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn.
Darllen Nehemeia 5
Gwranda ar Nehemeia 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 5:14-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos