Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.
Darllen Marc 15
Gwranda ar Marc 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 15:42-47
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos