A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.