Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl. A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani. A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt.
Darllen Marc 14
Gwranda ar Marc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 14:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos