Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 13:1-31

Marc 13:1-31 BWM

Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilltu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant. Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth. Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.