Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 11:12-25

Marc 11:12-25 BWM

A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant. A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas. A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau