A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.
Darllen Marc 10
Gwranda ar Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:5-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos