A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd.
Darllen Marc 10
Gwranda ar Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:35-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos