A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd â’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt. A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
Darllen Mathew 4
Gwranda ar Mathew 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 4:23-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos