Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
Darllen Mathew 27
Gwranda ar Mathew 27
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 27:57-61
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos