A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd. A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.