Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 14:1-21

Mathew 14:1-21 BWM

Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu. A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.