Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8:40-56

Luc 8:40-56 BWM

A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef. Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef: Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef. A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu, A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi. A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof. A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd. Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro. A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iacheir. Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan, a thad yr eneth a’i mam. Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y mae. A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi. Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod. A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi. A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.