Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.