A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.