A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.