Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno. A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt. Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd, Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
Darllen Luc 15
Gwranda ar Luc 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 15:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos