Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo? Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?
Darllen Luc 11
Gwranda ar Luc 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 11:5-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos