A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd. A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd. A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
Darllen Luc 1
Gwranda ar Luc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 1:45-56
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos