Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth. A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.
Darllen Luc 1
Gwranda ar Luc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 1:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos