Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 6:1-20

Josua 6:1-20 BWM

A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth. A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod. A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer. A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr ARGLWYDD. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt. A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch. Felly arch yr ARGLWYDD a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll. A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr ARGLWYDD. A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith. A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i chwi. A’r ddinas fydd yn ddiofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r ARGLWYDD: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni. Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth, os cymerwch o’r diofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd-beth, ac y trallodech hi. Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i’r ARGLWYDD: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr ARGLWYDD. A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.