A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl; A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,) Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho. A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.
Darllen Josua 3
Gwranda ar Josua 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 3:14-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos