Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 22:1-9

Josua 22:1-9 BWM

Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi. Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr ARGLWYDD eich DUW. Ac yn awr yr ARGLWYDD eich DUW a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen. Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi; sef caru yr ARGLWYDD eich DUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll. Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt; Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion. A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Josua 22:1-9