Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.) Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef.
Darllen Ioan 7
Gwranda ar Ioan 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 7:37-43
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos