Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant.
Darllen Ioan 6
Gwranda ar Ioan 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 6:9-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos