Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
Darllen Ioan 5
Gwranda ar Ioan 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 5:25-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos