Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 3:3-17

Ioan 3:3-17 BWM

Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd. Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef. Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.