Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i.
Darllen Ioan 14
Gwranda ar Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:20-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos