Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
Darllen Ioan 13
Gwranda ar Ioan 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 13:21-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos