Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe. Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.
Darllen Hebreaid 2
Gwranda ar Hebreaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 2:14-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos