Wedi’r pethau hyn, y daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn. A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi-blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus. Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
Darllen Genesis 15
Gwranda ar Genesis 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 15:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos