Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
Darllen Exodus 20
Gwranda ar Exodus 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 20:8-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos