A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell, I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a’r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn; Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.
Darllen Esther 9
Gwranda ar Esther 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 9:20-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos