A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther. Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon. Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth? Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn: Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded. Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.
Darllen Esther 4
Gwranda ar Esther 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 4:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos