Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: Ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
Darllen Effesiaid 4
Gwranda ar Effesiaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 4:21-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos