Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.
Darllen Effesiaid 1
Gwranda ar Effesiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 1:17-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos